Dylid gwasgaru nitrogen a sylffwr gyda'i gilydd
Pan fyddwch yn defnyddio nitrogen a sylffwr gyda'i gilydd mae'n cynyddu effeithlonrwydd eich defnydd nitrogen gan olygu eich bod yn cael mwy o gnwd am eich arian a llai o wastraff
Dewis y gwrtaith cywir
Dewiswch wrtaith a fydd yn rhoi'r hyn rydych am iddo'i roi..mae digon o ddewis ar gael! Ond gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys sylffwr - mae'n gwella effeithlonrwydd nitrogen ac yn gwneud yn iawn am y diffygion yn eich pridd.
Mae Yara yn darparu ystod eang o raddau gwrtaith fel bod rhywbeth sy'n addas i bawb waeth pa fath o dir sydd gennych, yr hyn rydych yn ei ffafrio neu anghenion eich cnwd. Mae cael y dewis yn caniatáu i chi ddefnyddio gwrtaith sy'n ddelfrydol i'ch anghenion gan roi llawer mwy o enillion ar eich buddsoddiad.
Ar gyfer ffermwyr sydd am roi hwb i dyfiant porfa, mae gan Yara ddigon o ddewis, ond dau o'n cynhyrchion mwyaf poblogaidd yw YaraBela NUTRI BOOSTER a YaraBela AXAN.
Y prif wahaniaeth rhwng y ddau gynnyrch yw ychwanegiad seleniwm yn Nutri booster. Felly, ar gyfer ffermwyr sydd eisiau cyfoethogi eu porfa gyda seleniwm er budd eu gwartheg, byddai'r radd hon o wrtaith yn ddewis delfrydol.
Drwy sicrhau fod pob cegaid o borfa yn cynnwys seleniwm, fe fydd gennych fuches iachach sy'n perfformio'n well ac yn cynnal eu ffrwythlondeb.
Wyddoch chi ...
… fod seleniwm mewn porfa yn cael ei ddefnyddio'n fwy effeithiol gan y fuwch? Gan fod seleniwm ynghlwm i brotein mewn glaswellt mae'n ei wneud yn haws i'r fuwch ei amsugno.
Mae treialon wedi dangos bod gwrtaith seleniwm a roddwyd mewn un gwasgariad ym mis Ebrill wedi rhoi cynnydd sylweddol mewn crynodiad seleniwm mewn porfa/silwair gyda lefelau gwaed uwch yn y fuches wedi hynny gan arwain at well iechyd yn gyffredinol.
Beth mae ffermwyr eraill yn ei ddweud am wrteithiau Booster?
Os ydych yn dal heb eich argyhoeddi ynglŷn â manteision gwrteithiau wedi'u cyfoethogi â seleniwm Yara, gwrandewch ar farn ffermwyr eraill.
- Drwy gyfoethogi eich porfa â seleniwm, gallech arbed arian ar atchwanegiad seleniwm a biliau milfeddyg yn ddiweddarach drwy atal iechyd gwael ymhlith gwartheg yn hwyrach yn y tymor.
- Bonws arall defnyddio seleniwm gyda'ch gwrtaith yw gan fod pob glaswelltyn unigol yn cynnwys seleniwm gallwch fod yn dawel eich meddwl y bydd pob anifail yn cael y swm cywir o seleniwm yn gymesur â'i ddiet, nid dim ond yn rhai barus.
- Felly, os ydych yn bryderus am lefelau seleniwm yn eich gwartheg, YaraBela NUTRI BOOSTER yw'r dewis i chi.
YaraBela NUTRI BOOSTER (25% N + 5% SO3 and Se)
Cyfoethogi eich porfa gyda gwrtaith sydd wedi'i gyfnerthu â seleniwm er mwyn cefnogi gwell iechyd ymhlith da byw.
.
- Mae'n cynnwys seleniwm ar gyfer da byw iachach
- Mae sylffwr ychwanegol yn cynyddu cnwd gan 10-15%
- Gwrtaith cyfansawdd – mae pob gronyn yn cynnwys pob maetholyn
- Ni wahanir maetholion wrth eu trin nac yn y peiriant gwasgaru
- Mae'n rhoi gwasgariad cytbwys o'r holl faetholion
- Mae'n gwella ansawdd y borfa ac yn cynyddu cnwd
Gwrteithiau cyfansawdd o gymharu â chyfun
Un o fanteision penodol ein gwrteithiau YaraBela yw eu bod yn wrteithiau cyfansawdd. Mae gwrtaith cyfansawdd yn cynnwys gronynnau neu brilau sydd yr un siâp, maint a dwysedd, gyda phob un ohonynt yn cynnwys pob maetholyn, ac felly'n sicrhau gwasgariad cytbwys ar draws eich cae.
Mewn cymhariaeth, mae gwrtaith cyfun yn cynnwys cymysgedd o'r deunyddiau crai felly fe fydd y gronynnau yn amrywio o ran eu meintiau, siapiau a dwysedd. Oherwydd y gwahaniaeth yn y gronynnau, pan fyddant yn cael cymysgu yn y peiriant gwasgaru, bydd y gronynnau'n cael eu gwasgaru ar wahanol bellteroedd, yn bennaf oherwydd eu dwysedd. Ydych chi erioed wedi ceisio taflu pêl ping pong mor bell â phêl golff? Yr un yw'r egwyddor.
Cyfoethogiad sylffwr
Mae diffyg sylffwr yn gyffredinol ar draws priddoedd y DU, felly mae'n gwneud synnwyr i wasgaru gwrtaith sy'n cynnwys sylffwr er mwyn sicrhau bod ffynhonnell ddigonol o sylffwr i'w chael drwy gydol y tymor tyfu.
Ond mae defnyddio sylffwr yn mynd y tu hwnt i fwydo eich cnydau, mae hefyd yn sicrhau defnydd nitrogen mwy effeithlon ac felly gwella eich effeithlonrwydd defnydd nitrogen a gwell enillion ar fuddsoddiad yn eich costau gwrtaith.
Os oes angen y sylffwr arnoch ond nad ydych yn poeni'n ormodol am lefelau seleniwm yn eich da byw, yna mae Axan yn ddewis rhagorol sydd wedi bod yn gweithio ar gyfer ffermwyr am dros 35 o flynyddoedd.
YaraBela AXAN (27% N + 9% SO3)
Gwrtaith cyfansawdd sy'n cynnwys sylffwr a nitrogen ym mhob gronyn er mwyn sicrhau gwasgariad cytbwys o'r ddau faetholyn ar draws eich cae.
.
- Gronynnau mwy, trymach ar gyfer gwasgariad mwy dibynadwy
- Gwasgariad hafal dros led bowt lletach (hyd at 54m)
- Costau defnydd is gyda llai o deithiau
- Mwy goddefol i wynt a swm bychan iawn o lwch
- Sylffwr ychwanegol er mwyn gwella ymateb nitrogen gan 10-15%
- Gwrtaith cyfansawdd – mae pob gronyn yn cynnwys pob maetholyn
Cyngor agronomig
Datblygu cyngor agronomig o'r radd flaenaf a rhannu hyn gyda'n cwsmeriaid
Y dewis o wrtaith
Dewis y gwrtaith cywir ar gyfer y cnwd gorau ac er mwyn cefnogi gwell canlyniad amgylcheddol
Arloeseddau technolegol
Canfod ffyrdd arloesol i gefnogi ffermwyr yn eu hymdrech i ddiogelu'r amgylchedd
Sut y gall Yara eich helpu chi
Mae Yara wedi ymrwymo i gefnogi ffermwyr yn eu brwydr i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a chynyddu tryloywder ynglŷn ag o le y daw ein bwyd.
Cyngor agronomig
Mae Yara wedi buddsoddi'n drwm mewn datblygu gwybodaeth agronomig o'r radd flaenaf sydd wedyn yn cael ei rhannu gyda'r cwsmeriaid a werthfawrogir gennym. Yn y pen draw, mae Yara am i'n cwsmeriaid gael yr enillion gorau ar fuddsoddiad a fydd hefyd yn rhoi gwell canlyniadau ar gyfer yr amgylchedd gan y bydd llai o wastraff.
Un o'r meysydd rydym wedi canolbwyntio arnynt gyda'n treialon yw archwilio sut i wneud y defnydd gorau posibl o'ch effeithlonrwydd defnydd nitrogen (NUE). Fe ddaw pwynt lle bydd defnyddio mwy o nitrogen yn dechrau rhoi canlyniadau lleihaol. Bydd hefyd yn golygu cynnydd mewn trwytholchiad i'r lefelau trwythiad, felly bydd canolbwyntio ar gael y lefel gywir o ran NUE yn rhoi gwell canlyniad ar gyfer yr amgylchedd. Mae treialon blynyddol Yara yn helpu i nodi'r lefel i anelu ati.
Y dewis o wrtaith
Mae dewis y gwrtaith cywir yn golygu mwy na dim ond sicrhau'r cnydau gorau, gall hefyd gefnogi gwell canlyniad amgylcheddol. Er enghraifft, mae YaraVera Amidas yn helpu i atal colledion nitrogen i'r lefel trwythiad oherwydd ei gyfansoddiad. Mae'r sylffwr a ychwanegir mewn Amidas yn golygu amsugniad nitrogen mwy effeithlon. Ar ei ben ei hun bydd wrea yn cynyddu pH y pridd gan arwain at golledion sylweddol mewn nitrogen. Mae sylffwr yn gwrthbwyso'r broses hon.
Nid yw pob gwrtaith yn cael ei greu yr un fath, a chred Yara y dylai tryloywder cynhyrchu bwyd roi ystyriaeth i ddulliau cynhyrchu gwrtaith. Gyda gwreiddiau Nordig, mae Yara wedi ymrwymo ers tro byd i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ac wedi datblygu technoleg lleihad er mwyn tynnu dros 90% o allyriadau N2O yn ystod y broses gynhyrchu.
Arloeseddau technolegol
Mae Yara yn parhau i ganfod ffyrdd arloesol i gefnogi ffermwyr yn eu hymdrech i ddiogelu'r amgylchedd. Drwy ddarparu offer ffermio manwl gywir, megis yr N-Sensor, i ffermwyr er mwyn helpu i lywio penderfyniadau bydd yn atal defnydd gormodol ar wrtaith. Fodd bynnag, rydym bob amser yn gweithio ar ffyrdd i wella'r broses gynhyrchu gyda phrosiectau peilot i ddarparu technoleg amonia gwyrdd er mwyn lleihau ôl-troed carbon gwrtaith fel ei fod yn agos i sero, y gobeithiwn ei chyflwyno erbyn 2023.
Recommended fertilisers
The following fertilisers are recommended for spring grass growth
Cyngor cysylltiedig
Sut i gynyddu cynnyrch glaswelltir
Sut i wella ansawdd glaswelltir
Sut i gynyddu cynnwys seleniwm gwair
Dylanwadu ar wair gwanwyn cynharach
Faint mae peidio â gwasgaru sylffwr yn ei gostio i chi?
Rheoli defnydd gwrtaith gwanwyn a slyri ar gyfer pori
Deg rheswm dros ddefnyddio YaraBela Nutri Booster yr haf hwn
Gwneud i wrtaith eich porfa weithio'n galetach
Where can I buy Yara fertiliser in Wales ?
Yara supply our solid and liquid fertilisers and micronutrients in Wales through a network of local suppliers Use our interactive map to locate your nearest suppliers.
Read more about improving nutrient management
Future-proof your farmFuture-proof your farmFuture-proof your farm
Find out how your farm can become more productive, profitable and sustainable by future proofing your resources, your profit and our planet.